
Cymorth Tŷ'r CwmnïauCanllawiau ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Gogledd Iwerddon a chanddynt y llythrennau NILLP o flaen eu rhif cofrestredig
Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r mesurau dros dro sy'n galluogi PACau Gogledd Iwerddon a chanddynt y llythrennau NILLP o flaen eu rhif cofrestredig i ddefnyddio'r gwasanaeth WebFiling.
Caiff PACau a chanddynt rif cofrestredig sy'n dechrau gydag NILLP ddefnyddio'r gwasanaeth, ond rhaid iddynt roi’r llythrennau NC o flaen eu rhif cofrestru cyfredol yn hytrach nag NILLP. Mesur dros dro yw hwn tra bod Tŷ’r Cwmnïau yn diweddaru ei systemau er mwyn sicrhau bod modd defnyddio'r cod blaen NILLP. Dylid nodi nad yw hyn yn effeithio ar enw cofrestredig y PAC.
Mewngofnodi a Chofrestru:
Os yw rhif cofrestredig eich PAC yn dechrau gyda’r llythrennau NILLP, a'ch bod am ddefnyddio’r gwasanaeth WebFiling, dilynwch y trefniadau hyn wrth fewngofnodi:
- ar gyfer Math o Gwmni, dewiswch Gogledd Iwerddon (nid R0) o’r ddewislen.
- nodwch eich rhif cofrestru cyfredol, ond peidiwch â chynnwys y cod blaen NILLP (e.e. os NILLP999 yw'ch rhif, nodwch 999 neu NC999)
- nodwch y cod dilysu ar gyfer rhif y PAC dan sylw.
Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth:
Fe welwch y cod blaen NC (yn hytrach nag NILLP) cyn y rhif cofrestru ar bob un o’r canlynol:
- pob sgrin a ddangosir wrth ddefnyddio’r gwasanaeth WebFiling
- unrhyw negeseuon e-bost y mae'r gwasanaeth WebFiling yn eu creu
- unrhyw lythyrau y mae’r gwasanaeth WebFiling yn eu creu
- unrhyw gopïau ffeil o drafodion y mae’r gwasanaeth WebFiling yn eu creu
Ffurflenni sy’n cael eu ffeilio ac sydd ar gael i’w harchwilio ar y cofnod cyhoeddus:
Bydd yr holl ffurflenni sydd ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd yn dangos y cod blaen NILLP a’r rhif cofrestru.
NI fydd y cod blaen NC (a ddefnyddir wrth gyrchu'r gwasanaeth WebFiling) yn ymddangos ar unrhyw ffurflenni ar y cofnod cyhoeddus.