Rhestr termau

Aelod Dynodedig
Gweler aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
Aelod heb ei Ddynodi
Gweler aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
Aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
Person, endid naturiol neu gorfforaethol, a benodwyd i reoli materion y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC). Caiff aelod o PAC ei benodi naill ai fel Aelod Dynodedig neu Aelod heb ei Ddynodi. Mae gan Aelod Dynodedig yr un hawliau a dyletswyddau ag aelodau eraill (sydd heb eu dynodi), ond mae ganddo gyfrifoldebau ychwanegol, fel awdurdodi cyflwyno dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau. Gall aelod newid statws ei ddynodiad. Gall PAC ddewis penodi aelodau dynodedig yn unig neu rai aelodau dynodedig a'r gweddill yn aelodau (sydd heb eu dynodi). Rhaid i bob PAC sicrhau bod ganddynt o leiaf dau aelod dynodedig wedi eu penodi'n ffurfiol, ar unrhyw adeg.
Arian Treigl
Gall cyfalaf cyfrannau cwmni fod mewn unrhyw arian treigl o ddewis y cwmni, ond rhaid i CCC fod ag isafswm awdurdodedig o dros £50,000 (Sterling) neu €65,600 (Ewro). Mae unrhyw gwmni wedi'i gyfyngu drwy gyfrannau yn gallu (yn ddarostyngedig i waharddiad neu gyfyngiad yn ei erthyglau) ail-ddynodi ei gyfalaf cyfrannau, neu unrhyw ddosbarth o'i gyfalaf cyfrannau, i fathau eraill o arian treigl trwy fabwysiadu penderfyniad.
Arian Treigl Blaenorol
Yr arian treigl blaenorol yw'r mathau o arian oedd yn treiglo cyn yr Ewro yn Awstria, Y Ffindir, Yr Eidal, Gwlad Belg, Ffrainc, Lwcsembwrg, Yr Almaen, Gwlad Groeg, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Iwerddon a Phortiwgal.
Blaengyfrannau
Mae blaengyfrannau fel arfer â hawl sy'n pennu y dylai unrhyw fuddran flynyddol sydd wrth law i'w dosbarthu gael ei thalu'n flaenoriaethol ar y cyfrannau hyn cyn dosbarthiadau eraill.
Blaengyfrannau Cronnol
Mae Blaengyfrannau Cronnol â hawl sy'n pennu, os na ellir talu'r fuddran un flwyddyn, y caiff ei chario ymlaen i flynyddoedd dilynol.
Cerdyn Credyd neu Ddebyd
Mae Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn y cardiau credyd neu ddebyd canlynol - Visa, MasterCard, Maestro ac American Express.
Clustnodi
Clustnodi yw'r proses lle daw pobl yn aelodau o gwmni. Bydd tanysgrifwyr yn cytuno i gymryd cyfrannau wrth i'r cwmni gael ei gorffori ac fe ystyrir bod y cyfrannau wedi'u 'clustnodi' ar gyfer pob aelod yr adeg honno. Yn ddiweddarach, gellir derbyn rhagor o bobl yn aelodau o'r cwmni a chlustnodi cyfrannau ar eu cyfer. Ond rhaid i'r cyfarwyddwyr beidio clustnodi cyfrannau heb awdurdod y cyfranddeiliaid presennol. Bydd yr awdurdod naill ai wedi'i ddatgan yn erthyglau cymdeithasiad y cwmni neu fe gaiff ei roi i'r cyfarwyddwyr drwy benderfyniad a fabwysiedir mewn cyfarfod cyffredinol o'r cwmni.
Cod Dilysu

Mae'r cod dilysu yn god 6 cymeriad o hyd sy'n eich galluogi i weld a diweddaru gwybodaeth y cwmni ar WebFiling. Mae hefyd yn cyfateb yn electronig i lofnod swyddog y cwmni pan gyflwynir newid. Mae'n cysylltu’n uniongyrchol â rhif y cwmni. Anfonir y cod dilysu drwy'r post o fewn 5 diwrnod gwaith i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni.

Gofyn am god dilysu

Os oes angen i chi ffeilio dogfen arwystl (morgais), gallwch ddarllen y cyfarwyddyd cod dilysu benthyciwr.

Cod SIC
Y SIC (Dosbarthiad Diwydiannol Safonol) yw prif weithgarwch busnes y cwmni. Caiff cwmni ddangos hyd at bedwar cod SIC.
Cydsyniad i weithredu
Gwybodaeth am ganiatâd i weithredu yn lle llofnod bydd angen i chi ddarparu 3 eitem o wybodaeth bersonol or 7 categori canlynol: eich Tref enedigol, 3 digid olaf eich rhif ffôn, 3 digid olaf eich rhif Yswiriant Gwladol, 3 digid olaf rhif eich pasbort, Enw morwynol eich mam, Lliw eich llygaid, Enw cyntaf eich tad.
Cofnodion Cwmni
Dyma'r cofnodion a'r cofrestri (e.e. cofrestr aelodau, cofrestr gyfarwyddwyr etc) a ddelir gan y cwmni ac sydd ar gael i'w harchwilio naill ai yn swyddfa gofrestredig y cwmni neu'r cyfeiriad SAIL. Mae 12 math gwahanol o gofnodion cwmni a gellir eu cadw i gyd neu rai ohonynt, gan ddibynnu ar fath ac amgylchiadau'r cwmni.
Cofrestr Aelodau
Mae'r Gofrestr Aelodau yn gofnod cyfreithiol o holl drafodion cyfrannau'r cwmni. Caiff y gofrestr ei chadw fel arfer yn y swyddfa gofrestredig ond gellir ei chadw mewn cyfeiriad arall.
Cofrestr Cyfeiriadau Preswyl y Cyfarwyddwyr
Dyma gofrestr sy'n cynnwys dim ond cyfeiriad preswyl arferol pob cyfarwyddwr (personau yn unig). Ni ddylid datgelu'r Gofrestr o Gyfeiriadau Preswyl y Cyfarwyddwyr na threfnu iddi fod ar gael i'r cyhoedd. Dim ond i gyfathrebu â'r cyfarwyddwr ac i ddiweddaru'r cofnodion sydd wedi'u cadw yn Nhŷ'r Cwmnïau y dylai'r cwmni ddefnyddio gwybodaeth y gofrestr hon.
Cofrestr Ddyledebwyr
Mae'r Gofrestr Ddyledebwyr yn gofnod cyfreithiol o bawb sy'n dal dyledebau yn y cwmni. Caiff y gofrestr ei chadw fel arfer yn y swyddfa gofrestredig ond gellir ei chadw mewn cyfeiriad arall.
Cofrestr Gyfarwyddwyr
Dyma gofrestr a gaiff ei chadw gan y cwmni yn cynnwys manylion pob cyfarwyddwr (personau a chorfforaethol) megis enw, cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a manylion cyffredinol. Rhaid i'r Gofrestr Gyfarwyddwyr fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.
Cofrestr o Aelodau PAC
Dyma gofrestr a gedwir gan y PAC sy'n cynnwys manylion pob aelod (unigolion a chorfforaethol) fel eu henwau, eu cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a'u manylion cyffredinol. Rhaid i'r 'Gofrestr o Aelodau PAC' fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.
Cofrestr o Gyfeiriadau Preswyl Aelodau PAC
Cofrestr sy'n nodi cyfeiriad preswyl arferol pob aelod o PAC (personau'n unig). Ni ddylid datgelu'r 'Gofrestr o Gyfeiriadau Preswyl Aelodau PAC' na'i rhyddhau i'r cyhoedd. Dim ond wrth ohebu â'r aelodau ac wrth ddiweddaru'r cofnodion a gedwir yn Nhŷ'r Cwmnïau y dylid defnyddio'r manylion yn y Gofrestr.
Cofrestr Ysgrifenyddion
Dyma gofrestr a gaiff ei chadw gan y cwmni yn cynnwys manylion pob ysgrifennydd (personau a chorfforaethol) megis enw a chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau. Rhaid i'r Gofrestr Ysgrifenyddion fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.
Cwmni sy'n cael ei fasnachu ar farchnad wedi'i rheoleiddio/cwmni masnachedig
Dyma gwmni cyhoeddus y derbynnir unrhyw rai o'i gyfrannau ar gyfer masnachu ar farchnad wedi'i rheoleiddio (cwmni masnachedig). Mae'n ofynnol i gwmnïau cyhoeddus masnachedig ddarparu enwau a chyfeiriadau ar gyfer y cyfranddeiliaid hynny sy'n dal 5% neu ragor o unrhyw ddosbarth o'r cyfrannau. Dim ond enwau'r cyfranddeiliaid y mae'n ofynnol i gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus anfasnachedig eu darparu - does dim angen manylion cyfeiriadau.
Cyfalaf Cyfrannau
Pan gaiff cwmni ei ffurfio, mae'n rhaid iddo benderfynu a fydd atebolrwydd ei aelodau wedi'i gyfyngu drwy gyfrannau. Bydd y memorandwm cymdeithasiad yn nodi swm y cyfalaf cyfrannau a fydd gan y cwmni, ynghyd â rhaniad y cyfalaf cyfrannau yn gyfrannau o swm penodedig. Rhaid i'r aelodau gytuno i gymryd rhai neu bob un o'r cyfrannau pan gaiff y cwmni ei gofrestru. Rhaid i'r memorandwm cymdeithasiad ddangos enwau'r bobl sydd wedi cytuno i feddu ar gyfrannau a nifer y cyfrannau y bydd pob un yn eu dal. Y tanysgrifwyr y gelwir y bobl hyn.
Cyfalaf Dosbarthedig
Y cyfalaf dosbarthedig yw gwerth y cyfrannau a gafodd eu dosbarthu ymhlith y cyfranddeiliaid. Gwerth nominal y cyfrannau fydd hyn, yn hytrach na'u gwerth gwirioneddol.
Cyfarwyddwr
Y cyfarwyddwr yw'r person endid naturiol neu gorfforaethol a benodwyd gan aelodau'r cwmni i reoli'r cwmni ar eu rhan. Gall cyfarwyddwr weithredu'n gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd yr un pryd. Rhaid i bob cwmni fod ag o leiaf un person naturiol, 16 oed neu drosodd, yn gyfarwyddwr.
Cyfeiriad Cyflwyno Hysbysiadau
Mae'r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn lleoliad lle gall dogfennau a hysbysiadau swyddogol gael eu hanfon (cyflwyno) i sylw'r swyddog cwmni. Bydd y manylion a roir ar gyfer cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus. Ers newidiadau deddfwriaethol yn effeithio ar fanylion cyfeiriadau, does dim angen Gorchymyn Cyfriachedd ar yr unigolyn mwyach i gael rhoi cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod cyhoeddus.
Cyfeiriad y Swyddfa Gofrestredig
Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 'cartref' y cwmni y mae'n rhaid anfon pob dogfen swyddogol, hysbysiad a phapur llys iddo o dan y gyfraith. Gall cyfeiriad y swyddfa gofrestredig fod unrhyw le yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon, yn ôl man cofrestru'r cwmni. Pan fydd cwmni'n newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, mae'n rhaid iddo roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am y cyfeiriad newydd ar Ffurflen AD01.
Cyflwynydd
Y cyflwynydd yw'r sawl sy'n anfon dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau ar ran y cwmni.
Cyfranddeiliad

Mae cyfranddeiliad yn aelod cwmni sy'n meddu ar gyfrannau yn y cwmni.

  • Rhaid i gwmnïau preifat a chyhoeddus y mae eu Ffurflen Flynyddol yn diwallu cyfnod yn dod i ben cyn 1/10/08 ddarparu enw a chyfeiriad pob cyfranddeiliad.
  • Rhaid i gwmnïau preifat a chyhoeddus sy'n cael eu masnachu ar farchnad wedi'i rheoleiddio ac y mae eu Ffurflen Flynyddol yn diwallu cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1/10/08 ddarparu enwau cyfranddeiliaid yn unig; rhaid peidio rhoi cyfeiriadau'r cyfranddeiliaid.
  • Rhaid i gwmnïau cyhoeddus sy'n cael eu masnachu ar farchnad wedi'i rheoleiddio ac y mae eu Ffurflen Flynyddol yn diwallu cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1/10/08 ddarparu enwau a chyfeiriadau dim ond ar gyfer cyfranddeiliaid sy'n dal 5% neu ragor o unrhyw ddosbarth o'r cyfrannau; rhaid dileu'r rhai sydd â llai na 5% cyn cyflwyno.
Cyfrannau Adenilladwy
Caiff cyfrannau adenilladwy eu dosbarthu gyda chytundeb y bydd y cwmni'n eu hadbrynu yn ôl dewis y cwmni neu'r cyfranddeiliad ar ôl cyfnod arbennig neu ar ddyddiad penodedig. Ni chaiff cwmni ddosbarthu cyfrannau adenilladwy yn unig.
Cyfrannau Cyffredin
Cyfrannau cwmni heb iddynt unrhyw hawliau arbennig na chyfyngiadau yw'r rhain. Gellir eu rhannu'n ddosbarthiadau o wahanol werth.
Cyfrinair
Mae'r cyfrinair o leiaf 8 cymeriad o hyd ac yn cael ei greu gan y person sy'n gosod y cyfrif WebFiling. Gall cynnwys llythrennau, rhifau, symbolau a bylchau. Bydd angen i chi gofnodi i'r cyfrinair pan fyddwch yn mewngofnodi i WebFiling.
côd diogelwch
Mae cod diogelwch yn cael ei adnabod hefyd fel cyfrinair
Dosbarth Cyfrannau
Y dosbarth cyfrannau yw'r enw sy'n gysylltiedig â'r cyfrannau , e.e. cyffredin, blaengyfrannau a chyfrannau adenilladwy.
Dyddiad Caffael
Y dyddiad meddiannu yw'r dyddiad y sicrhawyd y cyfrannau gan y cyfranddeiliaid
Dyddiad Corffori
Y dyddiad corffori yw'r dyddiad y cafodd y cwmni ei gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Dyddiad Digwyddiad
Y dyddiad pan gododd rhyw ddigwyddiad, megis penodiad neu ddyddiad diwallu'r Ffurflen Flynyddol.
Dyddiad Diwallu
Y dyddiad diwallu yw'r dyddiad y mae'n rhaid i holl wybodaeth y Ffurflen Flynyddol fod yn gywir. Fel arfer, daw'r dyddiad diwallu flwyddyn ar ôl corfforiad y cwmni, neu flwyddyn ar ôl dyddiad diwallu'r Ffurflen Flynyddol flaenorol a gafodd ei chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.
Eithriad rhag Datgelu
Yma, caiff cyfarwyddwr ei eithrio rhag datgelu'i gyfeiriad preswyl arferol i asiantaethau teilyngdod credyd. Dim ond i gyfarwyddwyr sydd wedi sicrhau rhyddhad rhag datgelu o dan adran 243 o Ddeddf Cwmnïau 2006 y mae'n gymwys. Bydd y rhyddhad rhag datgelu hefyd yn gymwys i rai oedd â Gorchymyn Cyfrinachedd (adran 723b o Ddeddf Cwmnïau 1985) mewn grym ar 01/10/09.
Endid Corfforaethol
Endid corfforaethol yw lle caiff cwmni yn hytrach nag unigolyn ei benodi'n swyddog i'r cwmni.
Enwau Blaenorol
enwau sydd wedi cael eu defnyddio cynt yn nhrefn busnes.
Erthyglau Cymdeithasiad
Mae dogfen yr Erthyglau Cymdeithasiad yn pennu'r rheolau ar gyfer rhedeg materion mewnol y cwmni.
Ffurflen Flynyddol

Mae'r Ffurflen Flynyddol yn giplun o wybodaeth gwmni neu Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) arbennig ar y dyddiad diwallu. Mae'n wahanol i gyfrifon blynyddol y cwmni neu PAC.

Rhaid i'r Ffurflen Flynyddol cwmni gynnwys:

  • Enw'r cwmni
  • Y rhif cofrestru
  • Y math o gwmni, e.e. preifat neu gyhoeddus
  • Dyddiad diwedd y cyfnod y mae'r ffurflen flynyddol yn ei ddiwallu (y dyddiad diwallu)
  • Cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
  • Y cyfeiriad (lleoliad archwilio amgen unigol - SAIL) lle mae'r cwmni'n cadw cofnodion arbennig a manylion y cofnodion a gaiff eu cadw yno
  • Prif weithgareddau busnes y cwmni
  • Manylion ysgrifennydd y cwmni (corfforaethol neu unigolyn) lle bo hynny'n gymwys
  • Manylion holl gyfarwyddwyr y cwmni (corfforaethol neu unigolion)

Os oes gan y cwmni gyfalaf cyfrannau, mae'n rhaid i'r ffurflen flynyddol gynnwys hefyd:

  • Werth nominal y cyfalaf cyfrannau cyfan sydd wedi'i ddosbarthu
  • Enwau'r cyfranddeiliaid a'u cyfeiriadau (lle bo cyfeiriadau'n gymwys), a nifer y cyfrannau a'r math o gyfrannau a ddaliant neu'n eu trosglwyddo o gyfranddeiliaid eraill.

Rhaid i'r Ffurflen Flynyddol PAC cynnwys:

  • Enw'r PAC
  • Y rhif cofrestru
  • Dyddiad diwedd y cyfnod a fodlonir gan y Ffurflen Flynyddol (y dyddiad diwallu)
  • Cyfeiriad swyddfa gofrestredig PAC
  • Y cyfeiriad (lleoliad archwilio amgen unigol - SAIL) lle bydd y PAC yn cadw cofnodion arbennig, ynghyd â manylion y cofnodion a gaiff eu cadw yno.
  • Manylion aelodau'r PAC (corfforaethol neu unigolyn) ac ai aelod dynodedig ydynt.
Ffurflenni Newydd
Cyfeirir at ffurflenni sy'n ymwneud â Deddf Cwmnïau 2006 fel “ffurflenni newydd” a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad ar neu wedi 01/10/09 y dylid eu defnyddio.
Gorchymyn Cyfrinachedd
Daeth Gorchmynion Cyfrinachedd i ben ar 01/10/09, ond caent eu dyfarnu gynt o dan adran 723b o Ddeddf Cwmnïau 1985. O'i ddyfarnu, fe ganiatâi unigolyn roi cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau, yn hytrach na chyfeiriad preswyl, i'w gadw ar y cofnod cyhoeddus. Ar 01/10/09, fe newidiodd y ddeddfwriaeth ar gyfer y manylion cyfeiriad oedd i'w dangos ar y cofnod cyhoeddus ac nid oedd angen Gorchymyn Cyfrinachedd mwyach i gael rhoi cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau ar y cofnod. Os oedd unigolyn â Gorchymyn Cyfrinachedd mewn grym ar 01/10/09, fe ystyrir ei fod hefyd â Rhyddhad rhag Datgelu mewn grym o dan adran 243 o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Gwerth Nominal
Y gwerth nominal yw wynebwerth y cyfrannau. Dyma hefyd y lleiafswm y mae'n rhaid ei dalu am y cyfrannau. Defnyddir y gwerth nominal i fwrw cyfrif o werth nominal cyfanred y cyfrannau drwy luosi'r gwerth nominal â nifer y cyfrannau.
Gwlad/Gwladwriaeth Breswyl
Dyma'r Wlad neu'r Wladwriaeth lle mae cyfarwyddwr sy'n berson naturiol neu aelod o PAC yn byw. Dylai'r Wlad neu'r Wladwriaeth a gaiff ei chofnodi fod yn gyson â manylion cyfeiriad preswyl y cyfarwyddwr.
Hen Ffurflenni
Cyfeirir at ffurflenni sy'n ymwneud â Deddf Cwmnïau 1985 fel “hen ffurflenni” a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09 y dylid eu defnyddio.
Lleoliad Archwilio Amgen Unigol (SAIL)
Mae'r SAIL (Lleoliad Archwilio Amgen Unigol) yn lleoliad amgen yn lle'r swyddfa gofrestredig ar gyfer cadw cofnodion y cwmni a threfnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. Rhoir gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am gyfeiriad SAIL ar Ffurflen AD02, a rhoir gwybod am symud cofnodion y cwmni i'r cyfeiriad SAIL ar Ffurflen AD03. Defnyddir Ffurflen AD04 i roi gwybod am symud cofnodion y cwmni o'r cyfeiriad SAIL yn ôl i'r swyddfa gofrestredig.
Llofnod
Caiff pob dogfen electronig ei ffeilio drwy ddefnyddio Cod Dilysu sy'n hysbys dim ond i Dŷ'r Cwmnïau a'r cwmni ei hun. Mae'r Cod Dilysu yn cymryd lle'r llofnod ar y ddogfen.
Manylion Rhagnodedig

Diffinnir y manylion hyn yn y ddeddfwriaeth fel:

  1. manylion unrhyw hawliau pleidleisio, gan gynnwys hawliau sy'n codi o dan amgylchiadau penodol yn unig;
  2. manylion unrhyw hawliau, o ran buddrannau, i gael rhan mewn dosbarthiad;
  3. manylion unrhyw hawliau, o ran cyfalaf, i gael rhan mewn dosbarthiad (gan gynnwys wrth ddirwyn i ben); ac
  4. a yw'r cyfrannau i gael eu hadennill neu'n agored i gael eu hadennill ar ddewis y cwmni neu'r cyfranddeiliad ac unrhyw delerau neu amodau sy'n gysylltiedig ag adennill y cyfrannau hyn.

Noder: dim ond manylion unrhyw hawliau pleidleisio mae'n ofynnol eu datgelu ar Ffurflen Flynyddol.

Mathau o Gyfran
Y mathau mwyaf arferol o gyfran yw Cyffredin, Blaengyfran, Adenilladwy a Gohiriedig. Caiff cwmni greu unrhyw fath o gyfran a fyn, ac iddynt yr hawliau y bydd y cwmni'n eu pennu.
Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig
Mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) yn fusnes corfforaethol amgen sy'n rhoi buddion atebolrwydd wedi'i gyfyngu ond yn cynnig i'r aelodau yr hyblygrwydd o gael trefnu'u fframwaith mewnol fel partneriaeth draddodiadol. Mae'r PAC yn endid cyfreithiol ar wahân ac mae'n gyfrifol am ei hasedion, er bod atebolrwydd yr aelodau hwythau wedi'i gyfyngu
Penodiadau
Penodiad yw pan wneir unigolyn naill ai'n Gyfarwyddwr neu'n Ysgrifennydd cwmni, neu'n aelod PAC o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
Prif Weithgareddau Busnes
Y Cod SIC sy'n cyfleu prif weithgareddau busnes y cwmni. Caiff y cwmni fod â hyd at bedwar cod/gweithgarwch wedi'u dangos ar y Ffurflen Flynyddol.
Rheol 28 diwrnod
Wrth gyflwyno Ffurflen Flynyddol, caiff y cwmni newid y dyddiad diwallu i un cynharach. Lle detholir y dyddiad mwy na 28 diwrnod cyn y dyddiad cyflwyno, bydd yn ofynnol i'r cwmni gyflwyno ffurflen arall yn bodloni'r cyfnod yn dod i ben ar y dyddiad diwallu.
Rhif
Rhif unigryw yw hwn (rhif y cwmni neu rif y PAC) y mae Tŷ'r Cwmnïau yn ei ddyrannu i bob cwmni neu PAC a gorfforir.
Rhif Cyflwyno
Mae'r Rhif Cyflwyno yn rhif unigryw dan gyswllt â'ch data. Gwnewch nodyn o'r rhif hwn. Os nad ydych wedi cael e-bost yn cadarnhau bod eich data wedi dod i law o fewn 3 awr, ffoniwch Ganolfan Cysylltu Tŷ'r Cwmnïau ar +44 (0)303 1234 500.
Safle'r sawl sy'n awdurdodi'r cyflwyno
Y safle a ddelir gan y person sy'n awdurdodi'r wybodaeth gwmni a gaiff ei chyflwyno (e.e. cyfarwyddwr).
Software Filing
Mae Software Filing yn wasanaeth sy'n caniatáu i wybodaeth rhai dogfennau gael ei ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau drwy feddalwedd 3ydd parti, ar ffurf data wedi'u fformadu, yn hytrach nag ar bapur.
Statws
Aros i’r Cwsmer ei Gwblhau
Ar hyn o bryd mae’r ddogfen hon yn aros i gael ei chyflwyno. Os ydych eisiau bwrw ymlaen â ffeilio’r ddogfen hon mewnlofnodwch i’r Gwasanaeth Corffori ar y We a chwblhewch y broses gyflwyno.
Prosesu’r Taliad
Ar hyn o bryd rydym yn aros am gadarnhad o daliad ar gyfer y cyflwyniad hwn. Os nad ydych wedi cwblhau'r taliad ar-lein a'ch bod am fwrw ymlaen â'r cyflwyniad hwn, cliciwch y ddolen i ail-geisio talu.
Prosesu
Ar hyn o bryd mae’r ddogfen hon yn cael ei phrosesu. Cyn bo hir fe gewch gadarnhad ei bod wedi’i derbyn neu ei gwrthod.
Derbyniwyd
Mae’r ddogfen hon wedi cael ei derbyn.
Gwrthodwyd
Mae’r cyflwyniad hwn wedi cael ei wrthod. Cewch neges e-bost i ddweud bod eich data wedi cael ei wrthod. Bydd rhesymau gwrthod yn cael eu cynnwys yn yr e-bost hwn.
Canslwyd
Rydych wedi canslo’r broses o ffeilio’r ddogfen hon cyn ei chyflwyno.
Methodd y taliad
Mae’r taliad am gyflwyno’r ddogfen hon wedi methu. Os ydych eisiau bwrw ymlaen â chyflwyno’r ddogfen hon, cliciwch ar y ddolen i ail-geisio talu.
Cyflwyniad yn cael ei ganslo
Mae’r ddogfen a gyflwynasoch yn cael ei chanslo ar hyn o bryd. Byddwch yn derbyn neges e-bost yn fuan i gadarnhau hyn.
Methu
Cafwyd gwall critigol. Cysylltwch â ni.
Swyddogion
Mae'r ymadrodd Swyddog yn cyfeirio naill ai at Ysgrifennydd, Cyfarwyddwr neu aelod o PAC. Mae'r ymadrodd Swyddog Cwmni yn cyfeirio'n unswydd at Ysgrifennydd, Cyfarwyddwr, neu'r ddau.
Trosglwyddo Cyfrannau
Caiff cyfrannau eu trosglwyddo pan fydd cyfranddeiliad yn penderfynu gwerthu rhai o'i gyfrannau neu'r cyfan. Caiff y cwmni ffurflen trosglwyddo stoc a bydd yn rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau ar y Ffurflen AR01 nesaf ar ôl y trosglwyddo.
WebFiling
Mae WebFiling yn darparu system ddiogel i ddefnyddwyr gyflwyno gwybodaeth gwmni i Dŷ'r Cwmnïau. Mae dolen i WebFiling ar dudalen hafan Tŷ'r Cwmnïau neu defnyddiwch gyfeiriad gwefan WebFiling: https://ewf.companieshouse.gov.uk/
Yr Un Fath
Dyma gyfeiriad yr ystyrir ei fod 'yr un fath â' chyfeiriad arall ac a gofnodwyd yng nghofrestr y cwmni (neu'r PAC) ei hun gyda'r datganiad "yr un fath â" - yn hytrach na'i gofnodi fel cyfeiriad llawn (e.e. yn y gofrestr cyfarwyddwyr, mae'r datganiad "yr un fath â chyfeiriad y swyddfa gofrestredig" yn cyd-fynd â'r cofnod ar gyfer y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau). Os yw'r cyfeiriad "yr un fath â" chyfeiriad sydd wedi newid, ystyrir bod sefyllfa'r ddau gyfeiriad wedi newid.
Ysgrifennydd
Caiff ysgrifennydd ei benodi i fod yn brif weinyddwr ar y cwmni. Mae ysgrifennydd cwmni'n ddewisol i gwmni cyfyngedig preifat ond yn orfodol i gwmni cyfyngedig cyhoeddus. Gellir penodi person naturiol i fod yn ysgrifennydd (heb gyfyngiadau oedran) neu fe all fod yn endid corfforaethol. Caiff ysgrifennydd weithredu'n gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd fel ei gilydd.
AP01 Penodi cyfarwyddwr
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am benodi person yn gyfarwyddwr cwmni.
AP02 Penodi cyfarwyddwr corfforaethol
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am benodi endid corfforaethol yn gyfarwyddwr cwmni.
AP03 Penodi ysgrifennydd
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am benodi person yn ysgrifennydd cwmni.
AP04 Penodi ysgrifennydd corfforaethol
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am benodi endid corfforaethol yn ysgrifennydd cwmni.
CH01 Newid manylion cyfarwyddwr
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion person a gafodd ei benodi'n gyfarwyddwr cwmni.
CH02 Newid manylion cyfarwyddwr corfforaethol
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion endid corfforaethol a gafodd ei benodi'n gyfarwyddwr cwmni.
CH03 Newid manylion ysgrifennydd
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion person a gafodd ei benodi'n ysgrifennydd cwmni.
CH04 Newid manylion ysgrifennydd corfforaethol
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion endid corfforaethol a gafodd ei benodi'n ysgrifennydd cwmni.
TM01 Terfynu penodiad cyfarwyddwr
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am derfynu penodiad (ymddiswyddiad) cyfarwyddwr cwmni (person neu gorfforaethol).
TM02 Terfynu penodiad ysgrifennydd
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am derfynu penodiad (ymddiswyddiad) ysgrifennydd cwmni (person neu gorfforaethol).
AA01 Newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg y cwmni.
AD01 Newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni.
AD02 Rhoi gwybod am leoliad archwilio amgen unigol (SAIL)
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am gyfeiriad SAIL.
AD03 Newid lleoliad cofnodion y cwmni i'r lleoliad archwilio amgen unigol (SAIL)
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am y cofnodion cwmni a gedwir yn y cyfeiriad SAIL.
AD04 Newid lleoliad cofnodion y cwmni i'r swyddfa gofrestredig
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am gofnodion cwmni a symudir o'r cyfeiriad SAIL i'w cadw yn swyddfa gofrestredig y cwmni.
SH01 Dychwelyd clustnodiad cyfrannau
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod bod y cwmni wedi dosbarthu cyfrannau ychwanegol a bod y rhain wedi'u clustnodi.
AR01 Ffurflen Flynyddol
Caiff y ffurflen hon ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau fel ciplun o wybodaeth y cwmni ar y dyddiad diwallu. Rhaid i gwmni gyflwyno o leiaf un ddogfen Ffurflen Flynyddol bob blwyddyn o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad cyfleu-manylion cyfreithiol (y dyddiad diwallu).
NM01 Hysbysiad am newid enw trwy benderfyniad
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau er mwyn hysbysu am benderfyniad aelodau'r cwmni i gyflwyno newid enw diamod.
Penderfyniad Arbennig
Cytundeb neu benderfyniad a wnaed gan yr aelodau, dosbarth o'r aelodau, neu gyfarwyddwyr cwmni i weithredu rhai newidiadau yw penderfyniad. Gall fod yn benderfyniad i newid enw'r cwmni, newid ei gyfalaf cyfrannau neu newid ei erthyglau.
LLAD01 Newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi newid i gyfeiriad swyddfa gofrestredig Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLAP01 Penodi aelod o PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi penodiad person fel aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLAP02 Penodi aelod corfforaethol o PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi penodiad endid corfforaethol fel aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLCH01 Newid manylion aelod o PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi unrhyw newidiadau i fanylion person a benodir fel aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLCH02 Newid manylion aelod corfforaethol o PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi unrhyw newidiadau i fanylion endid corfforaethol a benodir fel aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLTM01 Terfynu penodiad aelod o PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi terfyniad penodiad (ymddiswyddiad) aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) (person neu endid corfforaethol).
LLAD02 Rhoi gwybod am leoliad archwilio amgen unigol (SAIL) Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi cyfeiriad SAIL ar gyfer Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLAD03 Newid lleoliad cofnodion i leoliad archwilio amgen unigol (SAIL) Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i'w hysbysu am gofnodion y cwmni a gedwir yng nghyfeiriad SAIL Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLAD04 Newid lleoliad y cofnodion i swyddfa gofrestredig PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i'w hysbysu am gofnodion cwmni sy'n cael eu symud o gyfeiriad SAIL a'u cadw yn swyddfa gofrestredig Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLAA01 Newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau i gofnodi newid i ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC).
LLAR01 Ffurflen Flynyddol y PAC
Cyflwynir y ffurflen hon i Dŷ'r Cwmnïau er mwyn rhoi ciplun o wybodaeth y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) ar y dyddiad diwallu. Rhaid i PAC gyflwyno o leiaf un Ffurflen Flynyddol bob blwyddyn o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad diwallu cyfreithiol (diwrnod diwallu).
88(2)
Caiff Ffurflen 88(2)(Wedi'i Diwygio 1988) ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod bod y cwmni wedi dosbarthu cyfrannau ychwanegol a bod y rheiny wedi'u clustnodi. Ffurflen o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 yw hon a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09 y dylid ei defnyddio.
288a
Caiff Ffurflen 288a ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am benodi swyddog, Cyfarwyddwr neu Ysgrifennydd. Ffurflen o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 yw hon a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09 y dylid ei defnyddio.
288b
Caiff Ffurflen 288b ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod bod swyddog ( Cyfarwyddwr neu Ysgrifennydd) wedi rhoi heibio i weithredu (ymddiswyddo, diswyddo, marw etc). Ffurflen o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 yw hon a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09 y dylid ei defnyddio.
288c
Caiff Ffurflen 288c ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau i roi gwybod am newid manylion swyddog, (Cyfarwyddwr neu Ysgrifennydd), e.e. newid enw neu gyfeiriad preswyl newydd. Ffurflen o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 yw hon a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09 y dylid ei defnyddio.
363
Dogfen y Ffurflen Flynyddol yw Ffurflen 363. Ffurflen o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 yw hon a dim ond os yw dyddiad y digwyddiad cyn 01/10/09 y dylid ei defnyddio.