Cwcis

Ffeiliau bach yw cwcis a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan.

Rydyn ni'n defnyddio cwcis i wneud i'r wefan hon weithio a chasglu gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaeth.

Cwcis hanfodol

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i'n gwasanaethau weithio. Maen nhw'n ein helpu ni i gadw'ch gwybodaeth yn ddiogel, ac yn cofio hysbysiadau rydych chi wedi'u gweld fel nad ydyn ni'n eu dangos i chi eto.

Cwcis parti cyntaf yw'r cwcis canlynol, sy'n golygu eu bod yn cael eu gosod gan Dŷ'r Cwmnïau:

Enw Pwrpas Darfod
ch_session Dynodwr sesiwn ar gyfer gwasanaethau Ffeilio Gwe Electronig (FGE). Gwerth ar hap unigryw sy'n caniatáu i'r wefan adnabod sesiwn y defnyddiwr. Hefyd yn cynnwys tocyn a gynhyrchir ar hap sy'n newid ar bob tudalen. Nid yw'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ac ni ellir ei defnyddio i adnabod defnyddiwr. Pan fyddwch yn cau eich porwr
chcookie Mewn briwsionyn tracio Apache adeiledig, sy'n bresennol ar Wasanaethau Ffeilio Gwe Electronig (FGE). 25 mis
transaction Fe'i defnyddir gan Wasanaeth Ffeilio Gwe Electronig (FGE) i storio'r URL y bydd y defnyddiwr yn cael ei ailgyfeirio iddo os bydd unrhyw wallau sesiwn yn digwydd. 24 awr
lang Yn cofio'r iaith rydych chi wedi'i dewis. Pan fyddwch yn cau eich porwr neu'n newid yr iaith â llaw
92a4e3521f3bb0d Wedi'i ddefnyddio i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel wrth i chi ddefnyddio'r gwasanaeth. Pan fyddwch yn llofnodi allan o'r gwasanaeth
amlbcookie Gosod i ddefnyddio'r un gweinydd gwe tra byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth. Pan fyddwch yn cau eich porwr
ch_cookie_consent Cadw eich dewisiadau caniatâd e-bost. Ar ôl blwyddyn

Mae’r cwcis canlynol yn gwcis trydydd parti hanfodol, a osodir gan y cyflenwyr allanol sy’n darparu ‘plug ins’ ar gyfer rhai o’n gwasanaethau:

Enw Pwrpas Darfod
__cfduid Mae’r cwci _cfduid yn helpu Cloudflare i ganfod ymwelwyr maleisus i’n gwefannau ‘Cwsmeriaid’ ac yn lleihau blocio defnyddwyr cyfreithlon. Gellir ei roi ar ddyfeisiau Defnyddwyr Diwedd ein cwsmeriaid i nodi cleientiaid unigol y tu ôl i gyfeiriad IP a rennir a chymhwyso gosodiadau diogelwch ar sail pob cleient. Mae angen cefnogi nodweddion diogelwch Cloudflare. 30 diwrnod
__cflb Cwci cydbwyso llwyth yw hwn ar gyfer sesiynau gludiog ar gydbwysyddion llwyth Cloudflare. 24 awr

Cwcis dadansoddeg

Mae'r cwcis hyn yn ddewisol. Gyda'ch caniatâd, rydyn ni'n eu defnyddio i ddarganfod sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Er enghraifft, pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir ydych chi ar y wefan, sut wnaethoch chi gyrraedd yno a beth rydych chi'n clicio arno. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwasanaethau.

Nid yw ein cwcis yn storio nac yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol (fel eich enw na'ch cyfeiriad), nac unrhyw beth sy'n caniatáu inni ddarganfod pwy ydych chi. Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics (Universal Analytics) a meddalwedd LUX Real User Monitor (RUM) o SpeedCurve i gasglu gwybodaeth ddienw am sut rydych chi'n defnyddio GOV.UK. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau bod y wefan yn cyrraedd anghenion y defnyddwyr ac i'n helpu i wneud gwelliannau i'r wefan ac i wasanaethau digidol y llywodraeth.

Rydym yn defnyddio'r cwcis dadansoddeg canlynol:

Enw Pwrpas Darfod
_pk_id.* Fe'i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau, drwy ddadansoddiadau ar y we. 13-25 mis
_pk_ref.* Fe'i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau, drwy ddadansoddiadau ar y we. Hyd at 2 flynedd
_pk_ses.* Fe'i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau, drwy ddadansoddiadau ar y we. 30 munud
_ga Mae hyn yn ein helpu i nodi sut rydych yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau fel y gallwn wella’r wefan. 2 flynedd
_gid Fe'i defnyddir i wella ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau, drwy ddadansoddiadau ar y we. 24 awr

Cwcis ar wasanaethau Tŷ'r Cwmnïau

Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'n gwasanaethau weithio a chasglu gwybodaeth ddadansoddeg. I dderbyn neu wrthod cwcis dadansoddeg, trowch JavaScript ymlaen yn eich gosodiadau porwr ac ail-lwythwch y dudalen hon.