Help and Support

Y Gwasanaeth WebFiling

Gofynion Blynyddol

Diweddaru manylion y cwmni

Gwasanaethau Eraill

Mantolen Cyfrifon Cryno - Cymorth

Darperir y canllawiau hyn i’ch helpu chi i gwblhau’r cyfrifon cryno i’w ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau. Os oes angen cyngor technegol pellach arnoch mewn perthynas â chynnwys y cyfrifon, yna bydd angen i chi geisio cyngor annibynnol. Cofrestrfa yw Tŷ’r Cwmnïau ac ni all ddarparu cyngor proffesiynol ar faterion cyfrifeg.

Cyffredinol
Daw cyfrifon cryno o gyfrifon cyflawn neu gyfrifon syml.
Y datganiadau ar y fantolen
Rhaid derbyn pob un o’r pedwar datganiad cyn cyflwyno’r cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau.
Dyddiad y cyfarwyddwr sy’n cymeradwyo’r cyfrifon
Rhaid i hyn fod ar ddyddiad y fantolen neu’n ddiweddarach, a rhaid iddo beidio â bod yn ddyddiad yn y dyfodol (dim ond dyddiadau o fewn y cyfnod hwn a fydd yn ymddangos ar y calendr).
Y cyfarwyddwr sy’n cymeradwyo’r cyfrifon
Rhaid nodi enw’r cyfarwyddwr a lofnododd gyfrifon statudol y cwmni ar ran bwrdd y cyfarwyddwyr.
Cyfarwyddwr ychwanegol sy’n cymeradwyo’r cyfrifon (os yw’n berthnasol)
Gellir nodi enw mwy nag un cyfarwyddwr os oes angen.
Ffigurau cymharol
Rhaid darparu ffigurau cymharol oni bai nad oes unrhyw gyfnod cyfrifeg blaenorol.
Dyddiad y fantolen
Rhaid i hyn fod o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg (dim ond dyddiadau o fewn y cyfnod hwn fydd yn ymddangos ar y rhestr o ddyddiadau). Fel arall, rhaid ffeilio AA01c i newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg y cwmni.
Arian treigl
Rhaid defnyddio’r un arian treigl trwy’r cyfrifon i gyd.
Cyfalaf cyfrannau a erchwyd ond na dalwyd
Swm a gafodd ei erchi wrth glustnodi’r cyfrannau, ond nad oedd wedi dod i law ar ddyddiad y fantolen yw hwn.
Asedau Sefydlog
Eitemau sydd wedi cael eu caffael gan y busnes sydd â gwerth i’r busnes ac oes economaidd sy’n hwy na’r cyfnod cyfrifeg y cyflwynir y cyfrifon mewn perthynas ag ef (ceir esboniad o asedau diriaethol ac anniriaethol isod).
Asedau anniriaethol
Adnoddau tymor hir heb bresenoldeb ffisegol e.e. brand, enw da, ewyllys da, perthnasau â chyflenwyr. Nid yw hyn yn cynnwys arian parod neu eitemau a ddelir i’w trosi’n arian parod.
Os nodir bod asedau anniriaethol, rhaid darparu nodyn sy’n manylu ar y gost ar ddechrau’r cyfnod cyfrifeg, ynghyd ag unrhyw ddibrisiant yn ystod y cyfnod o dan sylw.
Asedau diriaethol
Adnoddau tymor hir â phresenoldeb ffisegol e.e. cerbyd cwmni, eiddo, peiriannau ac offer. Nid yw hyn yn cynnwys arian parod neu eitemau a ddelir i’w trosi’n arian parod.
Os nodir bod asedau diriaethol, rhaid darparu nodyn sy’n manylu ar y gost ar ddechrau’r cyfnod cyfrifeg, ynghyd ag unrhyw ddibrisiant yn ystod y cyfnod o dan sylw.
Buddsoddiadau
Adnoddau y mae’r cwmni’n eu dal at ddibenion buddsoddi yn hytrach na masnachu e.e. eiddo, cyfrannau.
Os nodir bod buddsoddiadau sefydlog, rhaid darparu nodyn sy’n manylu ar y gost ar ddechrau’r cyfnod cyfrifeg, ynghyd ag unrhyw ddibrisiant yn ystod y cyfnod o dan sylw.
Cyfanswm yr asedau sefydlog
Cyfanswm gwerthoedd llyfr net yr asedau anniriaethol, yr asedau diriaethol a buddsoddiadau ar asedau sefydlog.
Asedau cyfredol
Arian parod neu adnoddau a ddelir at ddibenion eu trosi’n arian parod. Mae hyn yn cynnwys stoc, dyledwyr a buddsoddiadau.
Stoc
Nwyddau a brynwyd neu a wnaed i’w hadwerthu, ond sydd heb gael eu gwerthu ar ddyddiad y fantolen.
Dyledwyr
Dyma’r symiau sy’n ddyledus i’r busnes yn sgil gweithgarwch masnachu.
Rhaid darparu nodyn os yw eich dyledwyr yn cynnwys unrhyw symiau sy’n ddyledus i’r busnes mwy na blwyddyn ar ôl dyddiad y fantolen.
Buddsoddiadau
Adnodd y mae’r cwmni’n ei ddal at ddibenion buddsoddi yn hytrach na masnachu, ac sy’n debygol o gael ei werthu cyn bo hir.
Arian yn y banc ac mewn llaw
Gwerth llyfr yr arian mewn llaw (h.y. arian papur a darnau arian) ac unrhyw falans positif mewn cyfrif cyfredol ar ddyddiad y fantolen.
Rhagdaliadau ac incwm a gronnwyd
Rhagdaliadau a gwerthiannau nad yw’r cwmni wedi eu cofnodi yn ei lyfrau hyd yn hyn.
Credydwyr: symiau sy’n ddyledus cyn pen un flwyddyn
Symiau sy’n ddyledus gan y busnes ar hyn o bryd ac sy’n daladwy yn y tymor byr h.y. ar unrhyw adeg hyd at flwyddyn ar ôl dyddiad y fantolen.
Os yw’r rhain yn cynnwys unrhyw ddyledion sydd wedi eu sicrhau (e.e. gorddrafft wedi ei sicrhau gyda’r banc y mae’n rhaid ai ad-dalu ar gais, rhandaliadau sy’n daladwy ar fenthyciadau wedi eu sicrhau cyn pen blwyddyn ar ôl dyddiad y fantolen ac ati), rhaid eu datgelu yn nodyn y credydwyr sy’n cyd-fynd â’r cyfrifon. Mae hi’n dderbyniol dangos cyfanswm y dyledion tymor byr a thymor hir sydd wedi eu sicrhau mewn un ffigur yn nodyn y credydwyr.
Asedau cyfredol net (rhwymedigaethau)
Cyfanswm yr asedau cyfredol llai’r rhagdaliadau a’r incwm a gronnwyd, a’r credydwyr: symiau sy’n ddyledus cyn pen un flwyddyn.
Credydwyr: symiau sy’n ddyledus cyn pen mwy nag un flwyddyn
Symiau sy’n ddyledus gan y busnes a fydd yn daladwy neu’n ad-daladwy dros gyfnod hwy h.y. mwy nag un flwyddyn ar ôl dyddiad y fantolen.
Os yw’r rhain yn cynnwys unrhyw ddyledion wedi eu sicrhau (e.e. rhandaliadau sy’n daladwy ar fenthyciadau mwy nag un flwyddyn ar ôl dyddiad y fantolen), rhaid eu datgelu yn nodyn y credydwyr sy’n cyd-fynd â’r cyfrifon. Mae’n dderbyniol dangos cyfanswm y dyledion tymor byr a thymor hir sydd wedi eu sicrhau fel un cyfanswm yn nodyn y credydwyr.
Os yw’r rhain yn cynnwys unrhyw fenthyciadau neu ddyledion sy’n daladwy gan y busnes mewn rhandaliadau neu fel arall mwy na 5 mlynedd ar ôl dyddiad y fantolen, rhaid eu datgelu ar wahân ar ffurf a) rhandaliadau ar ddyledion ar ôl 5 mlynedd a b) dyledion heb randaliadau ar ôl 5 mlynedd yn nodyn y credydwyr sy’n cyd-fynd â’r cyfrifon.
Darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau
Y ddarpariaeth ar gyfer taliadau yn y dyfodol, y mae eu gwerth a’u hamseriad yn ansicr.
Croniadau ac incwm gohiriedig
Incwm a gafwyd mewn perthynas â chyfnod cyfrifeg yn y dyfodol.
Cyfanswm yr asedau net (rhwymedigaethau)
Cyfanswm yr asedau llai cyfanswm y rhwymedigaethau.
Cyfalaf cyfrannau a erchwyd
Y cyfrannau y mae’r cwmni wedi gofyn am daliad llawn neu rannol mewn perthynas â nhw ac wedi derbyn y taliad hwnnw. Os oes mwy nag un dosbarth o gyfrannau, rhaid darparu nodyn sy’n manylu ar nifer a gwerth cyfanred enwol pob dosbarth o gyfrannau.
Os yw’r cyfrannau wedi cael eu clustnodi yn ystod y flwyddyn, rhaid darparu nodyn sy’n nodi manylion y cyfrannau (gan gynnwys y dosbarth o gyfrannau, eu gwerth cyfanred a’u nifer).
Cyfrif premiwm cyfrannau
Y gwahaniaeth rhwng gwerth enwol y cyfrannau a’u gwerth pan gawsant eu dosbarthu gan y cwmni.
Cronfa adbrisio
Cyfanswm y newid yng ngwerthoedd yr asedau yn sgil yr adbrisiad.
Cronfeydd eraill
Gwerth unrhyw gronfeydd na chafodd eu datgan fel arall h.y. y rhai a neilltuwyd i dalu costau mawr neu annisgwyl.
Cronfeydd cyfranddeiliaid
Cyfanswm buddsoddiad y cyfranddeiliaid mewn cwmni naill ai’n uniongyrchol (trwy gyfalaf cyfrannau a ddosbarthwyd) neu’n anuniongyrchol (trwy alluogi i rai o’r elw cadwedig gael ei ail-fuddsoddi).
Nodyn ar Bolisïau Cyfrifeg
Nodyn gorfodol yw hwn, a dylai ddarparu manylion yr holl brif bolisïau cyfrifeg y mae’r cwmni’n eu dilyn wrth baratoi cyfrifon statudol. Lle mae’r cwmni wedi mabwysiadu’r Safon Adrodd Ariannol ar gyfer Endidau Llai (FRSSE) dylai’r polisïau cyfrifeg gynnwys datganiad bod y cyfrifon wedi cael eu cynhyrchu yn unol â’r FRSSE sy’n nodi’r dyddiad effeithiol.
Trafodion i gyd-fynd â nodyn y Cyfarwyddwyr

I bob cyfarwyddwr, gellir cynnwys gwybodaeth am flaensymiau neu gredydau y mae’r cwmni wedi eu rhoi, neu unrhyw warantau o unrhyw fath a gychwynnodd y cwmni ar ran y cyfarwyddwr.

Am bob blaenswm neu gredyd, datgelwch y swm, y gyfradd llog, y prif delerau a’r symiau a ad-dalwyd. Am bob gwarant, datgelwch y prif delerau, y rhwymedigaethau mwyaf y gall y cwmni eu tynnu ac unrhyw swm a dalwyd, ac unrhyw rwymedigaeth a dynnwyd gan y cwmni at ddibenion cyflawni’r warant (gan gynnwys unrhyw golledion a godwyd wrth ei gweithredu.

Rhaid datgelu’r cyfansymiau canlynol hefyd: y blaensymiau neu’r credydau, y symiau a ad-dalwyd, symiau’r rhwymedigaeth uchaf o dan warant, ac unrhyw symiau a dalwyd neu rwymedigaethau a dynnwyd o dan y cytundebau gwarant.

Dim ond mewn cyfrifon statudol y mae’r nodyn hwn yn orfodol.

Cwmnïau wedi eu cyfyngu trwy warant
Nid yw’r cwmnïau hyn wedi eu cyfyngu trwy gyfrannau felly darperir nodyn sampl, sy’n cynnwys testun enghreifftiol. Gellir golygu’r nodyn hwn i gynnwys swm y warant neu unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r cwmni.
Cadw a gadael
Mae hyn yn gadael i chi gadw’r manylion a nodwyd ac ailgydio yn y gwaith ar y cyfrifon a’u cyflwyno’n ddiweddarach.
Gwaredu a gadael
Mae hyn yn gadael i chi gael gwared ar unrhyw fanylion a nodwyd a gadael y ffurflen.
Cadw copi
Mae hyn yn gadael i chi gadw copi o’r cyfrifon ar eich cyfrifiadur.
Dilysu a pharhau
Mae hyn yn cyflawni archwiliadau sylfaenol ar y wybodaeth yn y cyfrifon a gyflwynwyd. Os nad oes angen unrhyw newidiadau pellach, fe welwch sgrin sy’n crynhoi sut bydd y cyfrifon a gedwir ar y Gofrestr yn edrych. Cofiwch wirio’r crynodeb hwn am fod yn rhaid iddo gyd-fynd â’r copi rydych chi wedi ei lofnodi. Os ydych chi’n fodlon, cyflwynwch y cyfrifon trwy ddewis ‘Cyflwyno’r cyfrifon’.