Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau

Tŷ'r Cwmnïau sy'n rhedeg y gwasanaeth hwn. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan yn syml i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai dogfennau PDF ar gael mewn rhai ffyrdd gan gynnwys testun amgen coll a strwythur dogfen goll
  • mae dolenni tudaleniad, botymau radio a blychau ticio yn cwrdd â'r maint lleiaf a argymhellir.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar ein tudalen cymorth hygyrchedd i ddefnyddwyr Tŷ'r Cwmnïau.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae Tŷ'r Cwmnïau wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir yn yr adran nesaf.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys canlynol yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn:

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw'r mwyafrif o ddogfennau PDF yn hygyrch mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dewisiadau amgen testun coll a strwythur dogfennau coll (na chrybwyllir gan DAC, ond sy'n dal i fod yn fater hysbys). Nid yw hyn yn cwrdd â maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 4.1.2 (enw, gwerth rôl). Rydym wrthi'n diweddaru'r PDFs hyn.

Mae botymau radio, blychau ticio, a dolenni tudaleniad yn fach felly efallai y bydd rhai pobl ag amhariadau corfforol yn cael trafferth clicio arnynt. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.5.8 (maint targed (lleiafswm)). Rydym yn ymchwilio i ateb i'r broblem hon a byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn maes o law.

Sut wnaethon ni brofi'r gwasanaeth hwn

Rydym yn cynnal profion mewnol yn rheolaidd ar gyfer cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2.

Archwiliwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf (yn allanol) ar 2 Rhagfyr 2019. Cynhaliwyd yr archwiliad gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Fe wnaethon ni brofi

  • Mewngofnodi / Cofrestru
  • Dilysu Cwmni
  • Proffil y cwmni
  • Dethol Cod SIC
  • Penodiad Cyfarwyddwr
  • Cadarnhad cyflwyno
  • Taliad

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Er mwyn gwella hygyrchedd ein gwasanaethau, rydym yn:

  • gweithio gyda defnyddwyr go iawn sydd â materion hygyrchedd i sicrhau bod ein gwasanaethau'n diwallu eu hanghenion
  • cynnal profion mewnol ar gyfer cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.2 lefel A a lefel AA
  • gweithio gydag asiantaethau allanol ym mhrif ddinasoedd y DU i berfformio ymchwil defnyddioldeb gyda defnyddwyr
  • recriwtio cwsmeriaid trwy ein panel defnyddwyr i gymryd rhan mewn sesiynau yn ein labordy defnyddioldeb yng Nghaerdydd
  • adeiladu a phrofi ein gwasanaethau i fodloni gofynion hygyrchedd y llywodraeth
  • yn datblygu labordy technoleg gynorthwyol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd i wella profion ein gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o hygyrchedd

Paratowyd y datganiad hwn ar 5 Awst 2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Rhagfyr 2024.